ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cylchlythyr Ionawr 2003

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

 

Cymunedau yn Gyntaf

Yn yr adran hon:

Llyfr Syniadau

Cymunedau yn gyntaf

Hyfforddiant am ddim

Cylchlythyr Gwanwyn 2004

Cylchlythyr Chwefor 2004

Cylchlythyr Hydref 2003

Newyddion Hydref

Cylchlythyr Medi 2004

Cylchlythyr Haf 2003

Cylchlythyr Gwnwyn 2003

Cylchlythyr Mawrth 2003

Cylchlythyr Ionawr 2003

Mae Cynllun Cymunedau'n Gyntaf ym Mro Ddyfi wedi gwneud tipyn o gynnydd yn ystod Tachwedd a Rhagfyr tra'n parhau o'r broses o ymgynghori yn y Gymuned er mwyn darganfod anghenion, barn a diddordebau'r gymuned.

Cytunwyd i edrych yn fanylach ar wyth o feysydd trafod.

Cynhaliwyd tri digwyddiad cymunedol yn ystod mis Tachwedd - yn Neuadd Gymunedol Llanbrynmair, Canolfan Cymunedol Machynlleth a Neuadd Bentref Cwmllinau, a chynhaliwyd digwyddiad yn sgil y rhain yng Nghanolfan Gofal Machynlleth ar ddydd Mercher 11fed Rhagfyr.

Roedd pob grwp yn cael 15 munud ar bob safle i drafod y cwestiynau canlynol:

Safle A: Dychmygwch mai'r flwyddyn 2012 yw hi, ac mae rhaglen Cymunedau'n Gyntaf wedi helpu i greu cymuned mwy llewyrchus. Beth a gyflawnwyd?

Safle B: Beth yn eich barn chi yw'r agwedd fwyaf gwerthfawr o fod yn rhan o'r gymuned hon? Ar ba seiliau gallwn adeiladu i greu llwyddiant ac ansawdd bywyd gwell?

Safle C: Pa broblemau sydd yn eich tref neu'ch pentref chi a Bro Ddyfi yn gyffredinol? Beth yw'r anawsterau sy'n rhwystro rhai pobl yma rhag byw bywyd llawn o fewn eu cymunedau eu hunain?

Roedd hwylusydd a chyfieithydd ym mhob safle, oedd yn golygu fod pawb oedd yn bresennol yn gallu cyfrannu ac yn cael cyfle i drafod Bro Ddyfi gyfan, ac nid meysydd diddordeb penodol yn unig.

O ystyried fod y rhaglen dal yn weddol ifanc, derbyniwyd gwybodaeth ddefnyddiol iawn yn y digwyddiadau hyn. Trafodwyd yr wybodaeth hyn ymhellach, a chafwyd crynhoad o hyn yn y digwyddiad a gynhaliwyd ar 11fed Rhagfyr. Roedd pob problem, barn neu bwnc a drafodwyd yn y digwyddiadau blaenorol wedi cael ei gofnodi ar bapur. Rhannwyd y rhain i gategorîau neu benawdau yn al dewis unigolion yr ardaloedd oedd wedi eu crybwyll yn y lle cyntaf. Arweiniodd y broses hon at y pedwar ar hugain is-gategori canlynol:

1.Iaith a Diwylliant

2.Adloniant

3.Canolfan Technoleg Amgen

4.Cludiant a chyfathrebu

5.Tirlun

6.Cefn Gwlad a'r Amgylchedd

7.Ysgolion

8.Neuaddau Pentrefi 9.Gofal Iechyd

10.Cyllid

11.Celfyddydau a Hamdden

12.Difyrrwch ac Adloniant

13.Cyfathrebu Cyfreithiol

14.Chwaraeon a Gweithgareddau

15,Ymwybyddiaeth o'r ardal

16.Iaith, Diwylliant ac Addysg

17.Tai a Gwaith

18.Ansawdd bywyd

19.Adeiladau, Llety a thai

20.Twristiaeth

21.Cynaladwyedd

22.Gwaith, Busnes a darpariaeth gwasanaethau

23.Ieuenctid

24.Henoed

Wedyn daeth pawb at ei gilydd mewn un grwp mawr, a chafwyd trafodaeth ymhellach i grynhoi'r wybodaeth a rhannwyd y pynciau i wyth prif gategori fel a ganlyn:

1.Yr Economi A Gwaith

2.Addysg A Hyfforddiant

3.Cefn Gwlad A'R Amgylchedd

4. Iechyd A Lles

5.Gweithgareddau Yn Y Gymuned

6.Ansawdd Bywyd

7.Cludiant

8.Tai

Roedd y categorïau hyn yn cynnwys rhyw 150 o benawdau i gyd. Byddwn yn cofnodi pob barn/sylw unigol ac yn ystyried y rhain wrth i'r broses ddatblygu - byddwn yn cadw'r holl wybodaeth hanfodol yma. Yn wir, y bwriad yw ychwanegu at yr wybodaeth yma o hyd, a'i defnyddio wrth i'r broses ymgynghori fynd yn ei flaen. Yn y pen draw fe fydd yr ardal yn cyflwyno Cynllun Gweithredol i Lywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fe fydd grwp Llywio Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, ynghyd o'r Hwylusydd Cyril Evans, yn mynd ati i ystyried dulliau amrywiol o gynnwys gymaint o unigolion o'r gymuned yn y broses ag sy'n bosibl. Fe fydd hyn yn cynnwys grwpiau sy'n bodoli yn yr ardal, yn ogystal ag unigolion o bob oed, cefndir a rhyw.

Teimlwch yn rhydd i ddod mewn cyswllt a Cyril, neu tarwch mewn i Bro Ddyfi.

Mae'r Bro Ddyfi yn 'Ganolfan Menter Gymunedol, gyda'r adeilad o dan reolaeth ecodyfi ac yn cael ei rhannu gyda mudiadau cymunedol eraill.

Beth ydy adfywio bro?

Nod rhaglenni adfywio bro yw ceisio creu a chynnig gwaith addas ar gyfer pobl leol drwy edrych ar ystod eang o anghenion.

Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol a hefyd yn cynnwys cynorthwyo i godi lefelau hunan hyder pobl drwy ymwneud� gweithgareddau sy'n ymddangos ymhell o greu gwaith. Felly, mae gwella adnoddau cymunedol ac amgylcheddol yn rhan hanfodol o hyn, yn enwedig os nad ydynt yn unig yn cael eu �dosbarthuî gan asiantaethau allanol.

Rydym yn benderfynol o gyflawni'r gwaith yma mewn modd cynaliadwy. Dyma rai syniadau i helpu egluro beth mae hyn oll yn ei olygu a sut y mae'n gwahaniaethu oddi wrth ffyrdd eraill o adfywio bro:

Rhaid i anghenion lleol gael eu hateb o fewn fframwaith hir-dymor. Mae hyn yn golygu rhoi sylw i safon a sefydlogrwydd bydol yn ogystal � lleol (e.e. twymo bydol), i gryfder yr economi lleol (e.e. hyrwyddo prynu cynnyrch lleol) ac i allu y bobl leol gymeryd cyfrifioldeb am y dyfodol.

Dylai gweithgareddau ddosbarthu buddiannau economaidd, amgylcheddol a chymunedol ble fod modd. Ni ddylid ffocysu yn gyfyng ar un pwnc ond yn hytrach gwneud cysylltiadau.

 

 

Brig y dudalen