|
Ymaelodwch
ag ecodyfi drwy! Rydym
am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i
Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.
Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore
tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu
prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein
lleoliad - map mwy]
|
Beth
|
Gig I Bobl Ifanc
|
 |
Pwy
|
Kentucky AFC, Little Miss Mental, Acid Reign
+ bar jiws
|
Pryd
|
18fed Ragfyr 2003, 7.30-11.00pm
|
Lle
|
Canolfan Gymunedol Machynlleth
|
Pam
|
mewn ymateb i ddymuniadau pobl ifanc i godi
ymwybyddiaeth o'r fforwm ieuenctid i hyrwyddo beth gall pobl ifanc
eu wneud ac i ddweud eu dweud i newid pethau!
|
Datganiad i'r wasg datganiad i'r wasg datganiad i'r was datganiad dathlu'r
Nadolig 'da cymunedau'n gyntaf!
Mae Cymunedau'n Gyntaf yn llwyfannu digwyddiad cerddorol byw ar gyfer
diwedd tymor ar ôl cael ymateb gan ieuenctid Bro Ddyfi pan gofynnwyd
iddynt, "Beth fyddech chi'n gwneud i wella bywyd ieuenctid Bro Ddyfi os
fyddech a rhwng £100 a £1,000 yn eich meddiant?"
O'r ymateb, dywedodd dros 50% y byddent yn hoffi gweld digwyddiad cerddorol
byw.
Bydd y gig yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Gymunedol, Machynlleth ar
18fed. O 7.30 - 11.00yh. Bydd y tocynnau yn £3.00 wrth y drws.
Mi fydd yn gyfle gwych i weld y band addawol Kentucky AFC (gweler y llun),
Little Miss Mental, grwp lleol poblogaidd a dilyniant mawr lleol, ac Acid
Reign, a fydd yn gwneud eu hymddangosiad cyhoeddus cyntaf! Annogir ieuenctid
yr ardal i ddod i fwynhau'r noson.
Kentucky AFC
Adam Walton, Radio Wales: "O'r rhan fwyaf o recordiau eleni ...
maen't yn recordiau pop ... Fy hoff ddau yw dau sengl Kentucky AFC, Bodlon
ac Outlaw."
Mi fydd Bar Jiws, gyda staff ifanc, yn cyflenwi diodydd. Mi fydd stiwardiaid
o'r gymuned yn bresennol drwy'r digwyddiad a bydd yn noson di alcohol.
Mi fydd yna gyfle i siarad â phobl ifanc lleol ac i ofyn iddynt
beth yw eu gofynion a sut maent yn gweld Bro Ddyfi yn datblygu a beth
hoffent gweld yn digwydd. Mi fydd y gwybodaeth wedyn yn cael ei ystyried
ar gyfer strategaeth Cymunedau'n Gyntaf yn yr ardal.
Fforwm Ieuenctid
Mi fydd yn gyfle hefyd i ddatblygu Fforwm Ieuenctid lleol a fydd yn golygu
ieuenctid lleol yn cynrychioli'r ardal, a byddant yn cael eu hymgynghori
ar benderfyniadau lleol gan y cyngor. Mae pob agwedd o fywyd cymunedol
yn cael effaith ar bobl ifanc megis safleoedd diogel i chwarae a chymdeithasu,
llety am bris rhesymol, gwaith a hyfforddiant ac ati.
Gwybodaeth am y digwyddiad: Blanche
Cameron (01654) 781 350.
Gwybodaeth am Cymunedau'n Gyntaf: Cyril
Evans.
Noddir y digwyddiad yma gan Cymunedau yn Gyntaf, Noson Allan/Night Out,
Ffatri Fenter a Menter Maldwyn.
|