Machynlleth gael ei galluogi ar gyfer cysylltiad band llydan! |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Ar Fedi 1af 2004 disgwylir i gyfnewidfa Machynlleth gael ei galluogi ar gyfer cysylltiad band llydan!Mae hyn yn golygu y dylai pobl o fewn 5-6 cilometr i gyfnewidfa Machynlleth fedru derbyn cyrchiad Rhyngrwyd Band Llydan o Fedi 1af ymlaen. Ar Ebrill 27ain 2004, daeth BT â'r drefn gofrestru o flaen llaw a weithredwyd ganddynt am fwy na dwy flynedd i ben. Yn eu datganiad i'r wasg, dywedwyd y byddai unrhyw gyfnewidfa fyddai wedi cyrraedd y trothwy erbyn Ebrill 27ain neu fyddai o fewn 90% i'w lefel trothwy yn derbyn dyddiad galluogi ar gyfer cysylltiad Band Llydan erbyn diwedd mis Mai. (Cyrhaeddodd cyfnewidfa Machynlleth ei throthwy Ebrill 18fed, o drwch blewyn.) Maent wedi anrhydeddu eu haddewid ar gyfer Machynlleth, sy'n newyddion da. Rhoddwyd gwybod eisoes i gyfnewidfeydd eraill Dyffryn Dyfi am eu dyddiadau nhw, neu fel arall bydd rhaid iddynt ddisgwyl nes i BT gyhoeddi ei raglen waith ymhen tua dau fis. Maent wedi addo i uwchraddio 393 o'r 433 o gyfnewidfeydd sydd yng Nghymru. Mae gosod y dyddiad ar Fedi 1af 2004 yn newyddion ardderchog i Fachynlleth. Mae hyn yngynt na'r disgwyl. Ardaloedd eraillMae modd i bobl nad ydynt o fewn amrediad o 5-6 cilometr i gyfnewidfa ddewis system sy'n defnyddio lloeren. Mae'n costio £1000 i'w gosod a thua £50 bob mis, felly nid yw ond yn addas i bobl ariannog neu gwmn£au fedr gyfiawnhau'r fath wariant. Canfod darparydd gwasanaethMae'n bryd i'r rhai ffodus ddechrau ystyried dewis darparydd gwasanaeth ac archebu'r gwasanaeth. Ceir rhestr o ddarparwyr gwasanaeth yma www.adslguide.org.uk, gydag ychydig o gymariaethau o ran cyflymder, dibynadwyaeth a gwasanaeth cwsmeriaid; neu www.wda.co.uk/broadband/. Os oes busnes gennych, mae cynnig gan Awdurdod Datblygu Cymru i dalu hanner cost cysylltiad 1Mb yn ystod y flwyddyn gyntaf. Ceir manylion yn yr un wefan. Yn ystod y misoedd diwethaf mae cost band llydan wedi bod yn gostwng yn sydyn, felly mae'n werth chwilio i weld beth sydd ar gael. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||