Ymunwch i sicrhau cyrchiad Band Llydan |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae cyswllt Band Llydan yn gyfrwng cyflym o anfon a derbyn gwybodaeth drwy'r Rhyngrwyd.Mae'n galluogi i ddefnyddwyr unigol dderbyn rhaglenni cyfrifiaduron, cerddoriaeth a theledu fwy na heb o bedwar ban byd i'w sgrin ar yr aelwyd. Yn achos defnyddwyr busnes, gall roi hwb i gynhyrchiant a lleihau costau, er budd i'r economi lleol a swyddi yn y cylch. NewyddionAr Ebrill 19 cyrhaeddodd cyfnewidfa Machynlleth (01654 700/702/703) y "trothwy" o 400 o gofrestwyr. Galluogiry gyfnewidfa ar gyfer technoleg band llydan ar 1af o Fedi 2004. Cyrhaeddodd Corris y trothwy a bennwyd yno ym mis Chwefror ac y mae'r gyfnewidfa i'w galluogi ar Orffennaf 28. Yn Nhalybont, cofrestrodd y nifer angenrheidiol, sef 200, eu diddordeb o fewn cyfnod o dri mis a bydd y gyfnewidfa honno'n cael ei galluogi ar Ebrill 28ain. Rhagor o wybodaeth:Andy Rowland, Trefnydd, ecodyfi. ffôn: 01654 703965 John Behnan, aelod o'r grwp gweithredu. ffôn: 07810 277525 contact@machbroadband.org.uk |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||