
|
|
Cartref Siaradwyr gwadDr Alister Scott - pennaeth rheolaeth cefn gwlad yn Sefydliad Gwyddorau Gwledig Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Ei flaenoriaeth ymchwil allweddol, o ran ymgynghoriaeth a chyhoeddiadau cylchgronol academaidd, yw datblygu cynaliadwy gwledig, yn arbennig materion cysylltiedig â chynllunio trefol a chefn gwlad, cyfranogaeth gyhoeddus a datblygu gwledig. Ym mis Medi bydd yn ymgymryd â swydd newydd, sef Uwch Swyddog Ymchwil yn y Macaulay Land Use Research Institute yn Aberdeen. Dr. Doris Pokorny - dirprwy gyfarwyddydd uned weinyddol Bafaria Gwarchodfa Biosffer Rhön. Bu'n gweithio gyda'r uned ers dynodi'r biosffer yn 1991 ac yr oedd ei doethuriaeth, ynglyn ag amcanion ansawdd amgylcheddol a safonau ar gyfer defnydd tir cynaliadwy, yn canolbwyntio ar Warchodfa Biosffer Rhön yn astudiaeth achos. Ers 1992, cyfrannodd yn sylweddol i rwydwaith gwarchodfeydd biosffer rhyngwladol UNESCO, yn traddodi cyflwyniadau ac yn gwneud gwaith ymgynghorol yng Ngogledd a De America, Israel ac Awstralia, yn ogystal â llawer o wledydd Ewrop. Bu Syr John Houghton yn athro mewn ffiseg atmosfferig yn Rhydychen, yna yn Brif Weithredwr Swyddfa Feteorolegol y DU. Wedi hynny daeth yn gadeirydd cyntaf asesiad gwyddonol yr IPCC (y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsoddol). Parhaodd yn rhan o'r Grwp Gweithredu IPCC hwnnw fel cyd-gadeirydd hyd ddechrau 2002. Mae Engelbert Ruoss yn Gyfarwyddwr Gwyddonol Gwarchodfa Biosffer UNESCO Entlebuch yn y Swistir. Mae'n cynrychioli'r Swistir ar Bwyllgor Cydlynu Rhyngwladol Dyn a'r Biosffer UNESCO ac yn llywydd Gweithlu Economi Safonol Dyn a'r Biosffer UNESCO. Yn ogystal â darlithio yng Nghanolfan Reoli St. Gallen, y Swistir ac yn Sefydliad er Gwarchodaeth Natur, y Tirlun a'r Amgylchedd Prifysgol Basel, y Swistir, mae'n cynrychioli Academi Gwyddorau'r Swistir ar y Pwyllgor Gwyddonol Rhyngwladol er Ymchwil Alpaidd (ISCAR) ac yn aelod o'r Bwrdd Sefydliadol, 'Sefydliad er Datblygiad a Chynaladwydd Trefol' (UDS), 'Fforwm Bioamrywiaeth Cenedlaethol' Academi Gwyddorau'r Swistir a Chomisiwn UNESCO Cenedlaethol y Swistir. Aled Owen Griffiths Cyd-Gadeirydd bwrdd cyfarwyddwr ecodyfi. Ffermwr o Gwmlline, mae yn gyn-gadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac yn gweithio i'r NFU. Alison Edwards Swyddog Ardal Gadwraeth Arbennig Pen Llyn a'r Sarnau i Gyngor Gwynedd, ers mis Medi 2003 wedi iddi gwblhau Gradd Meistr mewn Rheolaeth Adnoddau Morol yn Ynysoedd Erch (Orkney). Andy Bell Swyddog Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig a Datblygu Cefn Gwlad i Wasanaeth Arfordir a Chefn Gwlad Gogledd Dyfnaint. Yn ogystal ag arwain y gwaith o ailddynodi Biosffer Braunton Burrows, bu ynghlwm â datblygu a hyrwyddo rhan 328 milltir o hyd o'r Tarka Trail rhwng Okehampton a Barnstaple. Andy Jeffrey rheolwr Cyffredinol Outward Bound Cymru yn Aberdyfi. Wedi cyfnod yn gweithio yn Hyfforddwr Grwp acÊwedyn ynÊBosn ar gyfer Ysgol y M™r Outward Bound ganol y 1970au, treuliodd Andy 16 mlynedd yn Adran Awyr y Llynges cyn dychwelyd i'r diwydiant awyr agored yn 1993. Gweithiodd i ddechrau ar gyfer Ymddiriedolaeth Outward Bound De Affrica yna flwyddyn yn ddiweddarach, daeth adref i barhau i weithio, yn hyfforddwr a thechnegydd awyr agored ar ei liwt ei hun. Ym mis Ionawr 1996 fe'i penodwyd i'w swydd bresennol, ynÊei dref enedigol. Andy Rowland Trefnydd Partneriaeth Dyffryn Eco Dyfi (ecodyfi), lle y bu'n gweithio ers 1998. Fe'i hyfforddwyd yn fotanegydd amaethyddol, a bu hefyd yn gweithio am 14 mlynedd yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen. Mae Andy Swash yn Ymgynghorydd Amgylcheddol i Adran Bywyd Gwyllt Ewropeaidd Defra ac yn ddiweddar ymgymrodd â Chadeiryddiaeth pwyllgor MAB y DU Charles Arch Tyddynwr o Bennal, ymgynghorydd i Menter a Busnes ac un o gyfarwyddwyr ecodyfi, lle y mae diddordeb penodol ganddo mewn datblygiad garddwriaeth leol. Bu'n gweithio i'r bwrdd hyfforddi amaethyddol am 25 mlynedd ac yn brif sylwebydd yn Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ers 1977. Chris Edwards Rheolwr Coedwig Ardal dros Ardal Goedwig Coed y Mynydd. Daeth i'r ardal wedi cael profiad o fod yn Rheolwr Gweithrediadau cenedlaethol ac y mae'n cyfrannu'n uniongyrchol i nifer o gynlluniau partneriaeth cymunedol, yn cynnwys llwybrau newydd beicio mynydd Dyfi a datblygu gwersyll Ceinws. Cyril Evans Hwylusydd Cymunedau'n Gyntaf dros Ddyffryn Dyfi, yn gweithio o Fachynlleth. Bu'n gweithio am 21 mlynedd gyda Chynhyrchwyr Gwlân Cymru (Wool Producers of Wales), yn Ninas Mawddwy ac y mae ganddo hefyd brofiad o fod yn Weithiwr Ieuenctid. Nerys Wyn Davies Uwch Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd, lle bu'n gweithio ers 5 mlynedd. Mae ei phrif swyddogaeth yn ymwneud â datblygu Natur Gwynedd, Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Gwynedd. Pete Frost Uwch Swyddog Gweithredu Cymunedol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yn gweithio o Fangor. Mae yn aelod o Fforwm Trefol Pwyllgor Dyn a'r Biosffer y DU. Peter Jones Rheolwr Celtica, yr atyniad ymwelwyr sydd â'i ganolfan ym Machynlleth, Cadeirydd Grwp Llywio Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi a hyrwyddwr o blaid y manteision lu a all ddeillio o'r Gymraeg a diwylliant Cymru. Bu'n ymwneud â mentrau, yn lleol a thramor, i greu ymwybyddiaeth ymysg pobl o'r diwylliannau amrywiol sydd gan genhedloedd bychain a'r cyfraniad a allent ei wneud i amgylchedd fodern a chynaliadwy. Teresa Walters Swyddog Twristiaeth ecodyfi, lle y bu'n gweithio ers 3 mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar gynllun Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi, sy'n annog buddsoddiadau mewn twristiaeth sy'n gynaliadwy ac yn bodloni anghenion cynllun gweithredu a baratowyd gan bobl leol. Tom Brown Tyddynwr o Felinbyrhedyn, athro permamaeth a chanolwr profiadol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu'n gyfarwyddwr gydag ecodyfi a Daear Elfennol, sy'n gweithio i gysylltu pobl a'r amgylchedd drwy gyfrwng cynlluniau ynglyn â'r celfyddydau a'r tir. Mae Allan Wynne Jones yn Ymgynghorydd Busnes Diagnostig gydag Antur Dwyryd LlynÊar gyfer pedair canolfan Llygad Busnes Gwynedd. Mae hefyd yn gweithredu rhaglen twristiaeth ddiwylliannol ar ran Menter a Busnes. Mae ganddo gefndir ym meysydd twristiaeth a marchnata ac y mae'n gweithio fel ymgynghorydd a darlithydd yn y meysydd hyn ac ar ddiwylliant a iaith. Mae Mike Bailey yn Uwch Reolwr Gwarchodfa ar Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi a Chors Fochno ac yn swyddog arweiniol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Dyfi, swydd y bu'n ei chyflawni ers 1990. Mae Dick Squires yn rheolwr gwarchodfa ardal ar gyfer yr RSPB ac y mae ei gyfrifoldebau'n cwmpasu gwarchodfeydd yr RSPB yn Ynys-hir, Ynys Dewi, Comin Carngafallt, Dyffryn Mawddwy, Gwenffrwd, Dinas a Chwm Clydach. Bu'n gweithio i'r RSPB am gyfnod o 30 mlynedd mewn amryw o warchodfeydd RSPB yn y DU yn cynnwys Morecambe Bay, Leighton Moss, Titchwell, Geltsdale a'r Ouse Washes. Ag yntau â chefndir ym myd ffermio, graddiodd Arfon Hughes o Brifysgol Bangor gyda BA mewn Cyfathrebu. Ers hynny cafodd PTCE ac y mae ar hyn o bryd yn gydlynydd i Fenter Maldwyn. Mae hefyd yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, yn Gadeirydd Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, yn ymwneud â Grwp Adfywio Dinas Mawddwy ac yn astudio ar gyfer tystysgrif mewn Datblygu Cymunedol ym Mhrifysgol Bangor. |
||
|
|
|
||
ebost: andy.rowland@ecodyfi.org.uk | ffôn. 01654 703965 | mwy am ecodyfi, y trefnwyr | Allweddion
mynediad |
|||