Gwarchodfa Biosffer Dyfi y CU |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Wyddech chi fod rhan o waelod Dyffryn Dyfi yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel ‘lle arbennig i bobl a natur? Cafodd ei ddynodi gan UNESCO yn un o’i ‘Gwarchodfeydd Biosffer’ yn y 1970au, ond nid ydym erioed wedi manteisio ar hynny. Mae ardaloedd Biosffer modern yn archwilio’r modd y gall pobl leol fanteisio trwy amddiffyn y pethau sydd yn werthfawr ganddynt – gwybodaeth leol, iaith, diwylliant yn ogystal â’r amgylchedd lleol a byd-eang. Ar ôl cynnal ymgynghoriad lleol helaeth, gofynnodd Partneriaeth Biosffer Dyfi i UNESCO am ail-gofrestru ardal llawer ehangach fel Biosffer Dyfi. Rydym yn disgwyl cymeradwyaeth yn gynnar yn 2009. Maent wedi apwyntio Delyth Richards fel Swyddog Cyfathrebu â'r Gymuned ac mae ecodyfi yn ei chefnogi yn ymarferol: www.biosfferdyfi.org.uk. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||