ecodyfi logo

 

 

*

Gwarchodfa / Ardal Biosffer Dyfi

Ardal Biosffer Dyfi yw'r unig fiosffer yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae angen ei hailddynodi yng nghyswllt meini prawf newydd a luniwyd yn 1995 gan UNESCO.

Cynhwysa'r ardal biosffer bresennol y rhan fwyaf o ADdGA Dyfi, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi/Cors Fochno a gwarchodfa RSPB Ynys-hir.

Yn ymarferol, y gyfuchlinedd pum metr ogylch y system aberol yw diffiniad anffurfiol Cyngor Cefn Gwlad Cymru o'r ardal biosffer.

O fewn yr ardal hon, nid yw ardaloedd priodol wedi'u diwygio'n ffurfiol oddi ar y map safle gwreiddiol, ond at ddibenion ymarferol, ystyrir mai Cors Fochno yw'r ardal graidd, gyda gweddill y Warchodfa Natur Genedlaethol, a'r gwarchodfeydd RSPB ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn cael eu rheoli i raddau helaeth yn ôl gofynion ardal glustog.

Yn sgîl adolygiad a gynhaliwyd gan Brifysgol Rhydychen yn 2000, arfaethir y dylid ymestyn dynodiad biosffer Dyfi i gynnwys dalgylch afon Dyfi yn fwy cyffredinol.

Ffurfia'r dalgylch uned ecolegol naturiol, unigryw. Mae hefyd gryn gefnogaeth i ardal biosffer eangach ymysg y boblogaeth fyddai'n cael ei gwmpasu ganddo.

Byddai gofyn sicrhau cytundeb ar gylchfaeo'r ardal biosffer ailstrwythuredig, a pharatoi a gweithredu cynllun rheoli gyda chyfranogaeth lawn budd-ddeiliaid megis ffermwyr, ffowlwyr, grwpiau diddordeb lleol, sefydliadau addysg, a grwpiau adloniadol.

Dolennau

 
*
*

ebost: andy.rowland@ecodyfi.org.uk | ffôn. 01654 703965 | mwy am ecodyfi, y trefnwyr | Allweddion mynediad

Aberdyfi beach