![]() |
Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar Fehefin 16 2005 |
|
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Partneriaeth Eco Dyffryn Dyfi Eco Valley Partnership t/a ecodyfiCofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar Fehefin 16 2005 yng Nghlwb Bowlio Machynlleth Aelodau oedd yn bresennol: Ann ac Ian Mitchell, Shelagh Hourahane, Paul Allen, Alun Jones, Brian Kelly, Pat Hellen, Marit Olsson, Ellen ap Gwynn, Mark Hebden, Nick Smyth, Aled Griffiths, Martin Ashby, Ursula Byrne, Ann Bottrill, Jonathan Hill, Guy Pargeter (Taliesin Communications), Will Lloyd Williams, Allan Wynne Jones, John Edwards, John Harrison, Nicola Burgess, Doreen Haggar, David Thorpe (Cyberium), Zoe Savvidou, Jackie Hassan (Cyngor Cymuned y Borth), Diane Jones, Andy Rowland, Teresa Walters, Tom O'Kane, Ann MacGarry, Charles Arch, Peter Jones, Jan Morgan, Roy Bamford, Mary Southwell, Ruth Stevenson, Anna Sistern Hefyd yn bresennol: Derek Turner, Simon Thomas, Roger Haggar Ymddiheuriadau: Buddug Williams (Awdurdod Datblygu Cymru), Carol Handcock, Nat Taplin, Nicola Dunkley, Kestrel Maranta, Richard Withers, Cyngh. J Michael Williams, David H Jones, Susan Morley (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys), Michael Bunney, Maritsa Kelly, John Roberts (Cyngor Cymuned Mawddwy), Chris Fuller, John Harrington (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys), Richard Gott (Pixel Foundry), Gill Jones. 1. Cymeradwywyd cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar Fehefin 28ain 2004: y cynnig gan Nick Smyth a Paul Allen 2. Cyflwynodd Martin Ashby Adroddiad y Cyfarwyddyddion yn yr Adolygiad Blynyddol ar gyfer 2004, gan nodi'r pwyntiau ychwanegol a ganlyn:
3. Cyflwynwyd y Cyfrifon Blynyddol ar gyfer y cyfnod 1/4/2004 hyd 31/3/2005 gan Andy Rowland a Marit Olsson. Fe'u derbyniwyd, gyda Paul Allen a Charles Arch yn cynnig. Bydd gwall yn Adroddiad y Cyfarwyddyddion yn cael ei gywiro: Nicola Dunkley oedd wedi ymddeol yn ystod y cyfnod, ac nid Nick Smyth (sef yr hyn a nodwyd). 4. Fe wnaeth pump aelod o'r Bwrdd o'r chwech oedd wedi ymddeol ar ddiwedd eu cyfnod gynnig eu hunain i gael eu hailethol. Yr eithriad oedd Charles Arch, a rhoddwyd diolch iddo am ei gyfraniad i'r grwp, yn enwedig yn achos garddwriaeth a'r Gynhadledd Gwarchodfa Biosffer. Roedd tri o aelodau eraill wedi rhoi eu henwau gerbron i'w hethol, felly cynhaliwyd pleidlais i ddewis 6 Chyfarwyddydd o'r 8 ymgeisydd. Dyma'r Cyfarwyddyddion gwirfoddol: Powys: Aled Griffiths, Gill Jones, Martin Ashby, Peter Jones Gwynedd: Paul Allen, Marit Olsson, Nick Smyth, Ruth Owen, Diane Jones Ceredigion: Ursula Byrne, Nicola Dunkley, Guy Pargeter, Ellen ap Gwynn, Jonathan Hill Yr oedd y tri aelod o staff wedi'u cyfethol i'r Bwrdd am gyfnod arall o flwyddyn yn ystod cyfarfod y Bwrdd yn gynt y noson honno. 5. Daeth y cyfarfod i ben am 8.15 ac yna cafwyd Fforwm Aelodau. Dyma'r prif bwyntiau: a) Cyflwynodd Ann MacGarry yr offeryn ôl Troed Ecolegol ar gyfer monitro ein heffaith ar y blaned, a fesurir yn ôl hectarau byd-eang sydd eu hangen i gynnal ein ffordd o fyw. Dyma rai gwefannau defnyddiol www.wwf.org.uk/researcher/issues/footprint/index.asp a www.walesfootprint.org (mesurydd personol). Bu trafodaeth ar yr ôl troed mawr sydd gan gig: mae'n debyg bod y fethodoleg yn rhagdybio da byw iseldirol yn cael eu magu ar brotein a fewnforiwyd - byddai'n ddiddorol cael gwybod a wnaeth astudiaeth Gwynedd amrywio hyn er mwyn adlewyrchu ymarferion ffermio mynydd Cymru. Mae ecodyfi a'r Ganolfan dechnoleg Amgen wrthi'n trafod gyda WWF sut i ddefnyddio'r offeryn hwn yn lleol. b) Amlinellodd Teresa Walter y modd y mae llwybr beicio mynydd newydd Climach-x yn sicrhau busnes o'r newydd ar gyfer lleoedd fel Byncws Braich Goch, Corris ac wedi ennyn digon o hyder ymysg selogion lleol iddynt agor byncws ac ail siop feiciau ym Machynlleth. Gweithredwyd y prosiect hwn, a gyllidwyd ag arian Ewropeaidd, gan Beicio Mynydd Dyfi gyda chefnogaeth ecodyfi, ac mae eisoes wedi creu 6 o swyddi yn y sectorau llety, arlwyo a gwasanaethau arbenigol lleol. Mae ecodyfi yn chwilio am arian ar gyfer rhaglen hyfforddi sgiliau adeiladu llwybrau i ddilyn hyn fydd yn creu ymestyniad bychan i'r llwybr. c) Cafwyd canmoliaeth i'r grwp gan Simon Thomas oherwydd iddynt ysgogi pobl leol i fynd i'r afael â phynciau o bwysigrwydd byd-eang fel newid hinawdd. Bu'n annog aelodau i osgoi'r perygl o wneud dim byd ond oherwydd bod y broblem i'w gweld yn un mor fawr. Ei awgrym oedd y gallwn ddefnyddio grym y prynwr i ddylanwadu ar fusnesau mawr, ein pleidlais i roi pwysau ar Lywodraeth a'n llais i addysgu'n gilydd. Roedd yn dadlau o blaid cyflwyno treth ar danwydd awyrennau a chael mwy o gymhellion treth i ffafrio cerbydau sy'n llosgi tanwydd yn effeithlon. Dywedodd ein bod ni i gyd yn wylwyr rhag y dilyw, cyfeiriad at chwedloniaeth yr ardal ynglyn â Chantre'r Gwaelod.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||