Partneriaethau a chynlluniau ym Mro Ddyfi |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Bu dathliad o ddatblygiad grwp adfywio cymunedol Bro Ddyfi (ecodyfi) yn ystod y flwyddyn a aeth heibio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd Fehefin 19eg. Cafodd yr aelodau a fynychodd y noson yng ngwesty Plas Dolguog amser diddorol a defnyddiol, gan ethol aelodau'r Bwrdd ar gyfer y deuddeng mis nesaf. Cafwyd cyflwyniad gan aelod mwyaf newydd ein staff, Tom O'Kane, ar ei waith yn helpu'r gymuned i leihau gwastraff. Darganfu fod barn gan bawb am ailgylchu a sut y gallem fanteisio yn ei sgîl. Ariennir ei gynllun gan Gyngor Sir Powys ac Amgylchedd Cymru, gydag adnoddau'n cael eu darparu gan y Cynulliad Cenedlaethol. Agwedd fwyaf uchelgeisiol y cynllun yw sefydlu trefniant i gasglu defnyddiau ailgylchadwy cartrefi Machynlleth. Amlinellodd Teresa Walters y cyfleoedd a gynigir i gwmnïau a grwpiau cymunedol gan gynllun Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi, a reolir gan ecodyfi. Y nod yw gwella ansawdd profiadau ymwelwyr drwy annog ceisiadau am grantiau buddsoddiad cyfalaf gan y Bwrdd Croeso. Bu Teresa'n cynorthwyo Partneriaeth Aberdyfi i ddatblygu cynlluniau ar gyfer canolfan ymwelwyr ecolegol, a Mach Off-Road Ltd gyda'i fwriad i adeiladu llwybrau beicio mynydd yng Nghoedwig Dyfi. Un o achlysuron mwyaf ysgogol y flwyddyn fu lansio'r tyrbin gwynt cymunedol ym Mhantperthog, eiddo Bro Dyfi Community Renewables Ltd. Dyfarnwyd dwy wobr bwysig i ecodyfia'i bartneriaid yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i'r cynllun hwn a phrosiectau ynni haul a dwr lleol eraill. Gwobr Ewropeaidd ar gyfer y bartneriaeth ynni orau yng nghefn gwlad oedd un, a derbyniwyd y llall gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol am "gynllunio er cynaladwyedd". Y partneriaid eraill oedd Awdurdod Datblygu Cymru, Menter Coedwigaeth, Asiantaeth Ynni Powys a Chyngor Sir Powys. Pwysleisiodd y Cyd-Gadeirydd, Nic Dunkley o Daliesin, ran ganolog ecodyfi bellach wrth ddod â phobl ynghyd. "Ers i ni ymestyn ein cyfrifoldebau gwreiddiol, oedd yn cwmpasu ynni, a newid ein nod i sicrhau adfywio cymunedol cynaliadwy, aethpwyd â'r maen i'r wal drwy gydweithio ag eraill yn ogystal a gweithredu ein cynlluniau ein hunain", meddai. Cred mai'r bartneriaeth fwyaf arwyddocaol allasai fod honno â Chymunedau'n Gyntaf, ond mae'r gwaith gyda CAMAD, y Groes Goch a'r Ganolfan Dechnoleg Amgen i ddatblygu cludiant cyhoeddus a chymunedol hefyd yn bwysig. Mae rhai grwpiau a chynlluniau pwysig yn gweithredu'n fwy lleol, er enghraifft y rhai a geir yn Ninas Mawddwy a Thalybont. Derbynnir cefnogaeth i lawer o waith ecodyfi gan Awdurdod Datblygu Cymru, gan gynnwys y pencadlys newydd yn Nh Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn.�Mae'r gwasanaethau y gellir manteisio arnynt yn yr adeilad yn cynnwys darpariaeth gwybodaeth, ystafell gyfarfod ac oriel, yn ogystal â lle hysbysebu at ddefnydd cwmnï au a chynlluniau lleol. Mae'r wefan a ddatblygwyd eleni, sef www.ecodyfi.org.uk, hefyd yn ased cymunedol o bwys. Ni fyddai hyn yn bosib heb gyfraniad y gwirfoddolwyr. Clodd Trefnydd ecodyfi, Andy Rowland, y noson drwy ddiolch iddynt, a chyfeirio at amryw byd o bosibiliadau sydd i fwy o bobl gymryd rhan, mor amrywiol ag ailgylchu plastig a dosbarthu taflenni, ac ymuno â grwpiau gweithredu i ddatblygu cysylltedd Band Llydan a meysydd gwaith eraill. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||