ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cymunedau yn gyntaf

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

Cymunedau yn Gyntaf

Un o raglenni mwyaf blaengar Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau yn Gyntaf sydd o'r nod o leihau tlodi a helpu i wella bywydau pobl sy'n byw yn yr ardaloedd tlotaf.

Rhaglen tymor hir yw hon a fydd yn parhau am o leiaf deng mlynedd. Bydd yn rhoi cyfle i bobl leol gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain am yr hyn sydd ei angen, a'u helpu i wneud hynny ddigwydd.

Amcanion Cymunedau'n Gyntaf yw cynnwys pobl leol er mwyn iddynt gyfrannu tuag at wella eu hardaloedd, dod o nawdd i mewn a chefnogaeth ychwanegol o ystod o ffynonellau i annog ffyrdd newydd o ddelio o phroblemau, ac i ddod o phawb at ei gilydd i wneud eu cymunedau yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.

Mae ardal Bro Ddyfi sydd ym Mhowys (sef Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair) yn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Golygahyn fod gan y Cynulliad ymrwymiad hir-dymor i gefnogi gweithgareddau fydd yn lleihau tlodi, eithrio cymunedol a'r anallu i ddefnyddio gwasanaethau yn yr ardal. Mynant fod y rhaglen waith yn cael ei chreu gan y gymuned ei hun mewn ffyrdd s'yn cynnwys pawb. Rydym yn helpu i ddechrau y broses hon.

Mae'r gadwyn yma o gymunedau gwledig bellach�â phartneriaeth ffurfiol, gyda Cyril Breeze Evans yn gydlynydd a Sian Birtland, a ymunodd ym mis Hydref 2004, �yn weinyddydd.

Rhagor o wybodaeth: safle wé Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi.

Cysylltwch a Cyril yn Ty Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys, SY20 8DT.
Rhif ffon: 01654 700315 E-Bost: Cyril@powys.gov.uk.

Beth ydy adfywio bro?

Nod rhaglenni adfywio bro yw ceisio creu a chynnig gwaith addas ar gyfer pobl leol drwy edrych ar ystod eang o anghenion.

Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol a hefyd yn cynnwys cynorthwyo i godi lefelau hunan hyder pobl drwy ymwneud â gweithgareddau sy'n ymddangos ymhell o greu gwaith. Felly, mae gwella adnoddau cymunedol ac amgylcheddol yn rhan hanfodol o hyn, yn enwedig os nad ydynt yn unig yn cael eu "dosbarthu" gan asiantaethau allanol.

Rydymyn benderfynol o gyflawni'r gwaith yma mewn modd cynaliadwy. Dyma rai syniadau i helpu egluro beth mae hyn oll yn ei olygu a sut y mae'n gwahaniaethu oddi wrth ffyrdd eraill o adfywio bro:

  • Rhaidi anghenion lleol gael eu hateb o fewn fframwaith hir-dymor.

  • Mae hyn yn golygu rhoi sylw i safon a sefydlogrwydd bydol yn ogystal â lleol (e.e. twymo bydol), i gryfder yr economi lleol (e.e. hyrwyddo prynu cynnyrch lleol) ac i allu y bobl leol gymeryd cyfrifioldeb am y dyfodol.

  • Dylaigweithgareddau ddosbarthu buddiannau economaidd, amgylcheddol a chymunedol ble fod modd.

  • Ni ddylid ffocysu yn gyfyng ar un pwnc ond yn hytrach gwneud cysylltiadau.

 

Brig y dudalen