Tir Cymunedol |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro DdyfiMae grŵp newydd yn cael ei ffurfio er mwyn cael gafael ar dir ac eiddo, a dal gafael arnynt er ffyniant tymor hir y gymuned leol. Amcan yr Ymddiriedolaeth yw darparu tai fforddiadwy a chynaliadwy a buddion cymunedol eraill. Hefyd, fe allai’r Ymddiriedolaeth chwarae rôl yn Heulfryn, Esgairgeiliog - trwy reoli neu berchen tir neu gyfleusterau cymunedol. Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi wedi’i chofrestru fel Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus, cymdeithas ddi-elw gydag ased clo - fel na fydd preifateiddio ar asedau tir. Gan fod atebolrwydd lleol a democrataidd yn ganolog, mae’r aelodaeth yn agored i bobl leol sy’n cyd-weld ac amcanion a gwerthoedd arweiniol yr YTC, ac i’r rheiny sy’n dymuno gwaddoli tir neu eiddo er budd Bro Ddyfi. Cynhelir cyfarfod am 7.30yh ar nos Iau, Gorffennaf 1af yng Nghanolfan Gofal Machynlleth ar Forge Road i greu Grŵp Llywio. Os ydych yn methu dod, ond yn awyddus i gymryd rhan , yna ffoniwch Andy Rowland ar 01654 703965 neu e-bostiwch ecodyfi. Mae yna gyfle hefyd i ddylunio logo sy’n adlewyrchu’r weledigaeth. Y dyddiad cau ydy’r 2 o Awst a mae manylion ar gael yma. Rhagor o wybodaeth:
Nodiadau i Olygyddion: Ecodyfi yw’r grŵp adfywio cymunedol ar gyfer Bro Ddyfi. Mae’n rhoi sylw arbennig i gryfhau’r economi lleol trwy stiwardio adnoddau naturiol a diwylliannol yn ofalus. Mae’n cael ei reoli gan Fwrdd o 17 o bobl leol, ac fe’i cefnogir trwy gytundebau masnachol neu grantiau, e.e. gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi wedi’i chofrestru fel Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus, cymdeithas ddi-elw gyda chlo ar ei hasedau - fel na fydd preifateiddio ar asedau tir. Gan fod atebolrwydd lleol a democrataidd yn ganolog, mae’r aelodaeth yn agored i bobl leol sy’n cyd-weld ag amcanion a gwerthoedd arweiniol yr YTC, ac i’r rheiny sy’n dymuno gwaddoli tir neu eiddo er budd Bro Ddyfi. | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||